Offerynnau Statudol sydd ag adroddiadau clir, a ystyriwyd yn flaenorol ar gyfer sifftio ac sydd bellach yn ddarostyngedig i graffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

18 Mawrth 2019

Cafodd yr offerynnau canlynol eu hystyried yn flaenorol i'w sifftio yn unol â Rheol Sefydlog 21.3B. Yn y broses sifft, cytunodd y Pwyllgor ym mhob achos mai'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau oedd y weithdrefn penderfyniad negyddol. Bellach mae'r offerynnau yn ddarostyngedig i graffu arferol yn unol â Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Er bod gan yr holl offerynnau adroddiadau clir, maent hefyd yn cynnwys pwynt o ran rhinweddau i amlygu'r broses sifftio:

Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad ar gyfer sifftio yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Cytunodd y Pwyllgor mai'r weithdrefn negyddol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.

SL(5)379 - Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru)

(Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan baragraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Maent hefyd wedi eu gwneud o dan adrannau 132 a 135 o Ddeddf Addysg 2002.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i gydnabod cymwysterau athrawon yng Nghymru.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion sifftio wedi eu bodloni: 18 Chwefror 2019

 

Fe’u gwnaed ar: 4 Mawrth 2019

Fe’u gosodwyd ar: 5 Mawrth 2019

Yn dod i rym â: rheoliad 1(2)